Sgwrs ddychanol am rai o raglenni archif bocs sets S4C Clic. Podlediad newydd yw Clic o’r Archif sy'n trafod hen gyfresi o'r archif. Mae'r rhaglenni yma i gyd ar gael ar S4C Clic. Tanysgrifiwch i'r sianel YouTube i wylio'r podlediad. Mae hefyd yn bosib gwrando ar Apple Music, Google Podcasts, a Spotify. Clic: https://www.s4c.cymru/clic/BoxSets YouTube: https://www.youtube.com/watch?v=HcRPcXVgKwM
Cuddiwch dan y duvet achos maen nhw nôl. Miriam Isaac a Iestyn Arwel fydd yn tynnu tair ffilm arswyd diweddaraf S4C Clic i ddarnau gyda sêr Merched Parchus, sef Hanna Jarman a Mari Beard.
Pam fod Dafydd Iwan gwyrdd yn gorwedd yn noeth mewn ffos? Ydy hi’n iawn i ferch olchi ei gwallt mewn sinc? A wnaeth cân newydd Dewi Pws ladd Hywel Gwynfryn? Ydy’r telyn, wedi torri?
Mae’r holl ffilmiau a Merched Parchus ar gael i wylio nawr yn adran bocs sets S4C Clic:
https://www.s4c.cymru/clic/BoxSets (https://www.s4c.cymru/clic/BoxSets)
Special Guests: Hanna Jarman and Mari Beard.
31 Jul 2020
Clic o'r Archif: Tipyn o Stad
Mae Maes Menai yn rhemp. Tydi car neb yn saff ac mae gwerthu cyffuriau ar gongol y stryd yn beth digon cyffredin. Y man perffaith i Miriam a Iestyn holi Heather (yr actores a’r darllenwraig newyddion Jeniffer Jones) o’r gyfres Tipyn o Stâd yn dwll am Ffag y ci, rhinweddau’ kick boxing’ yn erbyn gwerthu rhyw a phapur wal amrywiol y Gurkhas.
Bydd hefyd cyfle i ddarganfod gyda beth fyddai ei thad yn y gyfres yn chwarae petai na ‘lockdown’.
Dilynwch y linc i weld pob un cyfres Tipyn o Stâd yn adran bocs sets Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/43735779 (https://www.s4c.cymru/clic/programme/43735779)
Special Guest: Jennifer Vaughan Jones.
30 Jan 2020
Clic o'r Archif: Amdani
Yn y bennod ddiweddara o Clic o'r Archif mae Ffion Dafis yn ymuno â Miriam a Iestyn i drafod Amdani, un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C a greodd tipyn o gyffro pan y dangoswyd gyntaf ym 1999. Seliwyd y gyfres ar nofel boblogaidd Bethan Gwanas yn sôn am dîm rygbi merched mewn tref fechan yng Ngogledd Cymru. Dilynwch y linc i weld y gyfres yn adran bocs sets Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/21677910 (https://www.s4c.cymru/clic/programme/21677910)
Special Guest: Ffion Dafis.
30 Nov 2019
Clic o'r Archif: Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig
Dewch i’r Samporiwm yn y bennod yma o Clic O’r Archif. Bydd Caryl Parry Jones yn ymuno â Miriam Isaac ac Iestyn Arwel ac yn trafod y clasur Nadoligaidd: Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig. Cyfle i glywed o lygad y ffynnon am gynnwys annisgwyl diwedd y ffilm, y ffrog roedd pawb yn ei gasáu a chyfrinach llais peraidd un o’r actorion. Rhybudd: Yn cynnwys iaith gref a Caryl Parry Jones yn rhegu!
Dilynwch y linc i weld y ffilm yn adran bocs sets Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/21589028 (https://www.s4c.cymru/clic/programme/21589028)
Special Guest: Caryl Parry Jones.
11 Nov 2019
Clic o'r Archif: Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan
Wp a deis! Raslas bach a mawr! Yn y bennod yma o’r podlediad Clic O’r Archif bydd Plwmsan ei hun, Mici Plwm yn ymuno â Miriam Isaac ac Iestyn Arwel ac yn trafod y gyfres eiconig: Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan. Cyfle i glywed o lygad y ffynnon am ffan annisgwyl y deuawd enwog, beth sy’n gwneud slebjan dda a hanes brawd bach Plwmsan. RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref a slebjans!
Dilynwch y linc i weld y bocs sets: https://www.s4c.cymru/clic/programme/21589028 (https://www.s4c.cymru/clic/programme/21589028)
Special Guest: Mici Plwm.
30 Sept 2019
Clic o'r Archif: Tydi Bywyd yn Boen & Tydi Coleg yn Grêt
Pwy sy’n cofio hynt a helynt Delyth wrth iddi lywio’i ffordd drwy fywyd ysgol a choleg? Yn y bennod yma o’r podlediad Clic O’r Archif bydd rhai o wynebau cyfarwydd S4C a Hansh yn bwrw’u llygaid dychanol ar ddwy o gyfresi cwlt archif S4C: Tydi Bywyd yn Boen a Tydi Coleg yn Grêt. Ma’ nhw’n trafod bob dim; o ffasiwn, steil gwallt a rhywiaeth i Hywel o Pobol y Cwm mewn speedos! Os y’ch chi’n cofio’r gyfres yn cael ei dangos y tro cyntaf ac am ail-fyw anturiaethau Delyth, neu os nag y’ch chi erioed wedi clywed am y gyfres o’r blaen ac ishe gweld sut oedd bywyd cyn y smart phone, dyma’r podlediad i chi. Wedyn ewch i wefan dal i fyny S4C Clic i wylio’r bocs sets.
RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref!
Dilynwch y linc i weld y bocs sets: https://www.s4c.cymru/clic/BoxSets (https://www.s4c.cymru/clic/BoxSets)
Special Guests: Non Parry and Sam Rhys.
Host of Clic o'r Archif?
Claim your podcast to manage its listing and keep your show details accurate.
Pod Engine is an independent podcast discovery and analytics service and is not affiliated with or endorsed by this podcast. Artwork and show content belong to their owners. Full legal notice.