Pa ffordd well i ddianc o'r amser COFIDus hwn na gyda phodlediad newydd sbon?
Jacob a Nest, cyflwynwyr Crac y Wawr ar Xpress Radio, sydd am chwarae gemau a chwerthin o glydwch eu cartrefi!
Pa gymeriad eiconig yw llais 'I BEEEE'?! Beth mae Jacob wedi newid amdano'i hun yn ystod lockdown? A pha raglen ar Radio Cymru sydd wedi dwyn syniad Cracio'r Corona?!😉🌈
Dewch i fyd Jacob a Nest am hanner awr i'ch diddanu yn ystod y cyfnod yma🥂
30 May 2020
Cracio'r Corona Sioe 6
Yn ein chweched pennod, cawn drafod Eisteddfod T! Ac am y tro cyntaf yn y gyfres, cawn sgwrs a chân gan rywun sy’n hoffi gwneud hwyl am ein pennau…🤨🤣 A fyddwn ni'n ffrindiau erbyn y diwedd?!
Aber, Bangor, Abertawe, Caerdydd.. rhwng pa brifysgolion mae'r cythrel cystadlu fwyaf? Cawn glywed gan fyfyrwyr onest!!
C'mon, does dim byd gwell i'w wneud yn ystod lockdown na gwrando ar Jacob a Nest yn malu awyr!🌈☀️🥂
23 May 2020
Cracio'r Corona Sioe 5
Llais cyfarwydd o’r llwyfan a’r sgrin yw llais ‘i beeee’ yr wythnos hon, ond pwy tybed?! A chewch glywed am ein straeon ‘hangovers’ gwaetha ni, ynghyd â phrofiadau anffodus rhai o’r gwrandawyr..😆
Digon o ddwli i lenwi wythnos arall o lockdown!🌟🌈
15 May 2020
Cracio'r Corona Sioe 4
A ninnau ar y bedwaredd wythnos o lockdown... dyma rifyn newydd sbon o Cracio'r Corona!
Cawn ein swyno gan un o gewri’r S4C yn ‘I BEEE?!’.. ond tybed pwy? A chewch glywed am yr adegau mwyaf 'cringey' Jacob a Nest!
Digon o sgwrsio a lot o chwerthin 😆💫🌟🌈
8 May 2020
Cracio'r Corona Sioe 3
Pennod newydd sbon o Cracio'r Corona, sy'n bodlediad yr wythnos ar Pod Cymru!
Cymru, Yr Iseldiroedd, Rwsia, Yr Iwcrain a Gwlad Belg: beth sydd gan y gwledydd hyn yn gyffredin? Ateb annisgwyl iawn...🏴🇦🇷🇱🇺🇧🇪
Pwy fydd yn ymuno â'r Ynys Hunan Ynysu a thybed pa diva enwog sy;n canu ‘I beee’ yr wythnos hon?!
Beth well sydd i wneud yn ystod yr amser hwn na ymuno yn y chwerthin a’r cyfrinachau gyda Jacob a Nest🌈☀️💋
1 May 2020
Cracio'r Corona Sioe 2
Wythnos arall o lockdown a phodlediad newydd sbon o Cracio’r Corona. Cawn glywed llais cyfarwydd seleb Cymraeg yn rhoi cynnig ar ‘I Beeee’. Pwy fydd yn ymuno Jacob a Nest ar yr Ynys Hunan-Ynysu? Hanner awr o chwerthin, straeon a sgwrsio 🕺🏼💃🏼🥂
24 Apr 2020
Cracio'r Corona Sioe 1
Yn y bennod gyntaf, bydd Jacob a Nest yn rhannu straeon doniol lockdown ac yn chwarae ambell gem newydd - megis eu Ynys Hunan-Ynysu a Chracio'r Cliwiau. Dros hanner awr o chwerthin, tynnu coes - a chlip I BEEEE gan lais enwocaf Cymru!
Let's be honest, beth arall sydd gyda chi i wneud na gwrando ar Cracio'r Corona?!?
Host of Cracio'r Corona?
Claim your podcast to manage its listing and keep your show details accurate.
Pod Engine is an independent podcast discovery and analytics service and is not affiliated with or endorsed by this podcast. Artwork and show content belong to their owners. Full legal notice.