Mae Nefi Bananas yn ôl i falu awyr ac i sgyrsio â phobl nodedig Cymru. Estynnwch am y paned unwaith eto a mwynhewch y sgwrs ag enillydd Cân i Gymru 2021, Morgan Elwy.
20 Jul 2020
Nefi Bananas- Podlediad 4
Sut mae'r celfyddydau yn ymdopi yn ystod y Clo Mawr? Gwrandewch ar sgwrs Dan a Rhodri gyda Trystan Llyr Griffiths! Mae Dyfalu'r Dafodiaith yn ôl hefyd sy'n gwneud y rhaglen yn un Sir Benfro-aidd iawn. Dyma gyfle ichi glywed y diweddaraf am 'cancel culture'. Rhaglen llawn dop!
6 Jul 2020
Nefi Bananas- Podlediad 3
Yn ystod y Clo Mawr, mae'n anodd cofio adeg lle'r oeddwn yn ymddwyn fel 'Busy Bees'. Cewch gyfle i wrando ar sgwrs Dan a Rhodri gyda Malan am ei sengl newydd! Tybed pa lais fydd yn canu am yn ôl y tro yma?
29 Jun 2020
Nefi Bananas Podlediad 2
Dyma Rhodri a Dan yn cyflwyno'r ail bodlediad o'r gyfres. Cyfle i sgyrsio â rhai o'n cyd-fyfyrwyr ar y rhaglen hon. Bydd Dewi Morris yn sôn am beth sydd wedi bod yn ei gadw'n brysur yn ystod y Clo Mawr.
22 Jun 2020
Nefi Bananas- Podlediad 1
O orsaf radio i bodlediad wythnosol. Dyma'r podlediad cyntaf o gyfres newydd o bodlediadau wythnosol gan Dan a Rhods. Bydd cyfle i chi chwerthin ac i feddwl yn ddwys. Ymunwch â'r ddau wrth iddyn nhw drafod am y digrif a'r difrifol!
Host of Nefi Bananas?
Claim your podcast to manage its listing and keep your show details accurate.
Pod Engine is an independent podcast discovery and analytics service and is not affiliated with or endorsed by this podcast. Artwork and show content belong to their owners. Full legal notice.