Podlediad i weithwyr creadigol a rheiny sydd â diddordeb yn y maes. Bydd Rhywbeth Creadigol? yn dod â gweithwyr ac arbenigwyr o’r diwydiannau creadigol ynghyd i drafod y pynciau llosg sy’n effeithio arnyn nhw ar hyn o bryd, gan graffu ar yr ymchwil ddiweddaraf.
Dyma bodlediad gan rwydwaith Caerdydd Creadigol ochr yn ochr â’r gymuned greadigol.
Rhywbeth Creadigol? 3:3 Iechyd Meddwl yn y Sector Creadigol – Beth Ddylen ni Ystyried?
Yn y bennod hon, ry’n ni’n trafod iechyd meddwl yn y sector creadigol.
Mae Sian Gale yn Rheolwr Sgiliau a Datblygu yn CULT Cymru - sef undebau creadigol yn dysgu gyda’i gilydd - ac yn rhedeg cyrsiau Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl.
Mae Heledd Owen yn ddarlunydd sydd wedi dechrau busnes ei hun ers y cyfnod clo. Mae’n rhannu positifrwydd ac yn siarad yn onest am iechyd meddwl trwy ei chyfrifon cymdeithasol.
Tra bod 1 mewn 4 o bobol yn y Deyrnas Unedig yn dioddef o salwch iechyd meddwl bob blwyddyn, mae gweithwyr yn y sector creadigol tair gwaith mwy debygol o ddioddef o broblemau iechyd meddwl.
Recordiwyd y bennod hon ym mis Awst 2021.
Meddwl (https://meddwl.org/)
Mae’r wefan hon yn lle i gael cefnogaeth, gwybodaeth a phrofiadau iechyd meddwl – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mind Cymru (https://www.mind.org.uk/cy/mind-cymru/)
Mind Cymru, yr elusen iechyd meddwl.
CULT Cymru (https://cult.cymru/cy/)
Heledd Owen (https://heleddowen.co.uk/)
7 Oct 2021
Rhywbeth Creadigol? 3:2 - Cymru Creadigol i Bawb - Beth yw Dylanwadwr LHDTC+?
Yn y bennod hon yr ydym yn trafod dylanwadwyr LHDTC+ yng Nghymru creadigol.
Mae Iestyn Wyn yn cyd-gyflwyno podlediad Esgusodwch Fi? ar BBC Sounds gyda Meilir Rhys Williams, ac mae’n gweithio i Stonewall Cymru fel rheolwr ymgyrchoedd, polisi ac ymchwil.
Mae Aisha-May yn actores, perfformiwr sioe gerdd ac yn gyflwynwraig. Aisha oedd un o cyflwynwyr y rhaglen LHDT+ cyntaf i bobl ifanc ym Mhrydain, sef y gyfres Ymbarél ar gyfer Stwnsh ar S4C, ac mae bellach yn cyd-gyflwyno’r podlediad Legally Lesbians.
Soniwyd amdano yn ystod y bennod
Esgusodwch Fi (https://www.bbc.co.uk/programmes/p09hl9pk)
Legally Lesbians (https://anchor.fm/legallylesbians/)
Recordiwyd y bennod hon ym mis Awst 2021.
24 Sept 2021
Rhywbeth Creadigol? 3:1 - Beth yw Dyfodol Technoleg Cymraeg?
Ym mhennod cyntaf y gyfres, rydyn ni’n cael cwmni Dr Sarah Cooper a Dewi Jones o Brifysgol Bangor i siarad am ddatblygiadau diweddaraf ym myd technoleg Cymraeg. Mae Dr Sarah Cooper yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn arbenigo mewn seineg, dwyieithrwydd a thechnoleg lleferydd. Mae Dewi Jones yn Beiriannydd Meddalwedd yn Uned Technolegau (http://techiaith.cymru) Iaith Prifysgol Bangor sydd yn datblygu meddalwedd a systemau technoleg Cymraeg. Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar dechnoleg lleferydd gan fod seinydd clyfar gan 57% o bobl yng Nghymru erbyn hyn, ac mae’n faes sydd yn datblygu a thyfu’n gyflym. Recordiwyd y bennod hon ym mis Awst 2021.
15 Oct 2020
Rhywbeth Creadigol? 2:3 - Sut Le Yw'r Dirwedd Ddigidol - O'r Gweithle I'r Gymuned?
Ym mhennod olaf yr ail gyfres rydyn ni’n siarad am y dirwedd ddigidol yng Nghymru, gweithio ar-lein yn Gymraeg a pharhau i ymgysylltu â chymunedau. Huw Marshall (https://businesswales.gov.wales/mentoring/cy/proffiliau-mentor/huw-marshall), cyn-bennaeth digidol S4C a sylfaenydd y cyfrif Twitter Yr Awr Gymraeg, ac Angharad Evans (https://artiscommunity.org.uk/person/angharad-evans/), Cynhyrchydd gydag Artis Cymuned (https://artiscommunity.org.uk/), sy’n ymuno â ni ar gyfer y bennod hon. Rydyn ni’n sgwrsio am sesiynau hyfforddi wrth symud o'r swyddfa i'r cartref, defnyddio dwyieithrwydd i ddatrys problemau, yr heriau o ymgysylltu â chymunedau ar hyn o bryd ac effaith y cyfan ar ein lles.
1 Oct 2020
2:2 - Sut I Annog Ffasiwn Meddylgar?
Yn ail bennod yr ail gyfres rydyn ni'n sgwrsio am ffasiwn, cynaliadwyedd a chyfrifoldeb gyda'r arlunydd Efa Lois (https://efalois.cymru/) sydd â phodlediad am siopau elusennol a Sylvia Davies sy'n rhedeg y busnes ecogyfeillgar, Eto Eto (https://etoeto.uk/). Yn y bennod hon rydyn ni'n siarad am ymgymryd â meddwlgarwch ffasiynol, cyfrifoldeb brandiau i fod yn gynaliadwy, uwchgylchu a sut y gallwn ni fel unigolion ofalu am ein planed ac eraill trwy brynu llai a thrysori pob eitem sydd gennym.
17 Sept 2020
2:1. Ydyn Ni'n Barod Am Ddiwylliant Digidol?
Ym mhennod gyntaf yr ail gyfres mae'r Cynorthwyydd Datblygu Creadigol gyda National Theatre Wales (https://www.nationaltheatrewales.org/cy/), Dylan Huw, a Phrif Weithredwr y platfform aml-gyfrwng diwylliannol AM (http://www.amam.cymru/am), Alun Llwyd, yn siarad am ffrydio'r celfyddydau, blinder digidol a dyfodol theatr a diwylliant ar-lein. Mae AM yn gymuned aml-gyfrwng yn dathlu a rhannu creadigrwydd diwylliannol Cymru ac ers lansio ym mis Mawrth mae wedi ffrydio Tafwyl a llu o waith celfyddydol arall gan gynnwys cynyrchiadau gan National Theatre Wales fel Go Tell The Bees. Mae National Theatre Wales wedi lansio Network, rhaglen waith ddigidol newydd, a gynlluniwyd i gysylltu cynulleidfaoedd, cymunedau a gwneuthurwyr theatr â chyfleoedd i greu a phrofi theatr fyw, arloesol a gyflwynir drwy lwyfan digidol.
26 Mar 2020
1:3. Ydy Caerdydd yn Ddinas Cerddoriaeth?
Yn y drydedd bennod o 'Rhywbeth Creadigol?' rydym yn sgwrsio â DJ Bethan Elfyn (https://twitter.com/BethanElfyn) a Katie Hall o'r band CHROMA (https://www.chroma.band/home), am yr hyn mae bod yn ddinas cerddoriaeth yn ei olygu i Gaerdydd a'r hyn mae'r sîn gerddoriaeth yn y ddinas yn ei olygu iddyn nhw. Mae Bethan Elfyn yn cyflwyno sioe ar BBC Radio Wales, yn cynnal prosiect Gorwelion (https://www.bbc.co.uk/events/rb8v4f?lang=cy) sy’n cefnogi artistiaid newydd yng Nghymru a hefyd yn aelod o Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd (https://www.creativecardiff.org.uk/cy/creative-cardiff-news/cyhoeddi-aelodau-bwrdd-cerddoriaeth-caerdydd). Katie ydy prif gantores y triawd Alt Rock o’r cymoedd, CHROMA.
Gwrandewch ar sengl ddiweddaraf Chroma, Tair Ferch Doeth, yma. (https://open.spotify.com/track/4ImJ9R5FxrDVgnmWOJqPuk?si=C6DeL_EqQC6VZhVhukrE7Q)
Recordiwyd y bennod hon ym mis Ionawr 2020.
21 Feb 2020
1:2. A Yw Creadigrwydd Yn Ffordd o Fyw?
Yn ail bennod Rhywbeth Creadigol? rydym yn siarad am y cysylltiad rhwng hapusrwydd a chreadigrwydd gyda'r artist aml dalentog, Ani Saunders. (https://twitter.com/ani_glass)
Mae Ani'n siarad am ei gyrfa greadigol hyd yn hyn a'i phrosesau creadigol fel cerddor, artist gweledol a ffotograffydd. Mae'n gwneud PhD ar hyn o bryd sy'n edrych ar sut a pham y mae trefi ôl-ddiwydiannol yng Nghymru'n newid ai peidio trwy ymchwilio mewn i'r cyd-destun gwleidyddol, economaidd a diwylliannol ehangach.
Mae'n creu cerddoriaeth pop electronig yn Gymraeg ac yng Nghernyweg, dan yr enw Ani Glass. Mae ei sengl newydd, Mirores (https://soundcloud.com/aniglass/mirores), yn gyfoeth o synth-pop breuddwydiol a bydd gweddill yr albwm yn cael ei gyhoeddi ar y 6ed o Fawrth gyda thaith o Gymru yn dilyn. (https://golwg360.cymru/celfyddydau/cerddoriaeth/563178-cyhoeddi-albwm-glass-fywyd-nghaerdydd-fawrth)
23 Jan 2020
1:1. Sut Beth Yw Dylanwadu Digidol?
Ym mhennod gyntaf Rhywbeth Creadigol? rydym yn gofyn y cwestiwn 'Sut beth yw dylanwadu digidol?'.
Ar ôl clywed sut mae Dr Francesca Sobande (https://www.cardiff.ac.uk/cy/people/view/1451406-sobande-francesca) o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn diffinio dylanwadwr digidol, mae'r crewyr cynnwys digidol Megan Fflur a Llio Angharad yn rhannu eu syniadau a'u profiadau nhw.
Mae gan Megan mwy na 13,000 o ddilynwyr ar ei chyfrif ffasiwn Instagram (https://www.instagram.com/meganfflurr/), mae'n llysgennad i Boohoo ac mae'n rhedeg siop ar lein o'r enw Pethau (https://pethau.com/) sy'n gwerthu dillad a phethau cartref.
Mae Llio yn rhannu cynnwys ar-lein am y llefydd gorau i fwyta. Mae ganddi fwy na 13,000 o ddilynwyr ar ei chyfrif Instagram (https://www.instagram.com/llioangharad/), mae'n llysgennad i Sainsbury's a Beco ac mae'n arbenigo mewn marchnata digidol i Lywodraeth Cymru, yn gweithio ar brosiectau iaith Gymraeg fel Dydd Miwsig Cymru.
Host of Rhywbeth Creadigol??
Claim your podcast to manage its listing and keep your show details accurate.
Pod Engine is an independent podcast discovery and analytics service and is not affiliated with or endorsed by this podcast. Artwork and show content belong to their owners. Full legal notice.