Mae Gav Murphy yn bersonoliaeth adnabyddus ym maes gemau fideo. Mae'n gyn-newyddiadurwr a chynhyrchydd cynnwys, ac yn un o wynebau mwyaf adnabyddus sianel RKG, lle mae'n cyflwyno fideos, podlediadau ac adolygiadau gemau a ffilmiau.
Treuliodd ei blentyndod ym Maes y Cymer ger Caerffili, lle bu'n byw tan 2003. Yn y flwyddyn honno symudodd i Aberystwyth i astudio Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan gwblhau ei radd yn 2007. Yn ddiweddarach, aeth ymlaen i gwblhau gradd Meistr mewn Ysgrifennu Sgriptiau.
Er bod llawer o bobl yn gweld Gav fel y person doniol, y "class clown" sy'n codi calon pawb arall, mae'n cyfaddef bod anfanteision i hynny hefyd. Yn aml, pan mai chi yw'r person sy'n gwneud i bawb chwerthin ac yn codi ysbryd y criw, gall pobl anghofio gofyn sut rydych chi eich hun yn teimlo. Mae wedi profi cyfnodau pan oedd yn teimlo'n isel ac yn cael trafferthion gyda'i iechyd meddwl, ond nid oedd pobl bob amser yn sylweddoli hynny oherwydd y ddelwedd allanol hapus a doniol.
Mae'n rhannu hanesion ei fywyd gyda Beti George a hefyd yn sôn am ei gariad Honey Ross.
20 Sept 2026
Sharon King
Mae Sharon King yn Ddarlithydd mewn Gwyddor Filfeddygol yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth. Mae ganddi gefndir helaeth mewn ymarfer milfeddygol, ar ôl graddio mewn Gwyddoniaeth Anatomegol o Brifysgol Bryste ac ennill gradd BVetMed o Goleg Milfeddygol Brenhinol Llundain.
Cafodd ei chydnabod yn genedlaethol yn 2026 pan enillodd Gwobr Mentor Milfeddygol Cymdeithas Filfeddygol Prydain (BVA Veterinary Mentor Award) am ei chyfraniad eithriadol at fentora a chefnogi myfyrwyr a chydweithwyr yn y proffesiwn milfeddygol. Cafodd ei chanmol am ei thosturi, ei chefnogaeth bersonol, a’i hymrwymiad i feithrin hyder a datblygiad proffesiynol y genhedlaeth nesaf o filfeddygon.
Mae hi hefyd yn gweithio fel milfeddyg 1 diwrnod yr wythnos yn Aberystwyth, ac yn fam i 2 o blant.
Sharon oedd y ferch gyntaf i weithio fel milfeddyg yn Nolgellau, ac mae hi'n cofio'n glir cyfnod clyw traed ar genau yn 2001, " mae dal yn fyw yn y cof" a'i effaith ar ffermwyr Cymru.
Cawn hanesion difyr ei bywyd, ac mae hi hefyd yn trafod yn agored cyfnodau o iselder mae hi wedi eu profi a sut mae ei ffydd Gristnogol wedi bod o gymorth.
Mae ganddi ambell stori ddoniol o'i chyfnod fel milfeddyg ac fe glywn am hanes Oscar y crwban sydd ganddi sy'n 90 mlwydd oed!
Fe fydd Sharon hefyd yn dewis 4 cân, Anfonaf Angel, Rhys Meirion a Pharti Cut Lloi yn canu “Dôl y Maen”.
13 Sept 2026
Arwel Hughes
Beti George yn holi Arwel Hughes neu Arwel MAD fel mae rhai yn ei adnabod, sy'n adnabyddus fel DJ ac fel dyn busnes llwyddiannus ar Ynys Môn.
Sefydlodd gwmni sain a goleuo MAD dros 25 mlynedd yn ôl, ac ers hynny mae wedi bod yn rhan allweddol o drefnu a chefnogi digwyddiadau mawr ledled Cymru. Mae wedi gweithio gyda nifer fawr o artistiaid Cymraeg ac adnabyddus dros y blynyddoedd, ac mae hefyd yn rhedeg busnes ymgymerwyr angladdau teuluol sydd wedi bodoli ers pedair cenhedlaeth.
Fe ddechreuodd Arwel ei yrfa fel DJ yn 13eg mlwydd oed, yn cynnal disgos yn lleol, a bu'n gweithio yn ddiweddarach yr Octagon ym Mangor am 12eg mlynedd.
Fo hefyd sy’n gyfrifol am atgyfodi gŵyl Llychlynwyr Amlwch sy’n denu cannoedd o bobl o bob cwr o Brydain i gymryd rhan mewn ‘re-enactments’.
Mae wedi mabwysiadu dau o blant ac yn briod gyda Elaine. Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 can yn cynnwys Elin Fflur – Ar Lan y Môr -y gân sy'n mynd ag Arwel yn syth yn ôl i'w blentyndod yn Amlwch.
Who has been a guest on Beti a'i Phobol
Names identified in recent episode analyses. Showing up to five guests.
Gethin Evans
Manon Awst
Bethan Sayed
Jess Davies
Ian Keith Jones
Reach and audience
Public platform figures. Ratings count people who left a rating, not total listeners.
Apple Podcasts (US)
5.0 / 5
2 ratings
Spotify
5.0 / 5
5 ratings
Podcast Authority Score: 67 / 100
A composite of feed quality, social presence, YouTube performance and engagement. Read the methodology.
Quality
100
Social presence
0
YouTube
0
Engagement
85
Contact Beti a'i Phobol
Guest appearances
Books guests
Based on episode analysis; this does not confirm that the show is currently accepting guests.
Pod Engine is an independent podcast discovery and analytics service and is not affiliated with or endorsed by this podcast. Artwork and show content belong to their owners. Full legal notice.
Explore this show Podcast research with Pod Engine