About Deuce - Gan Illumine Theatre, Partneriaeth Genomeg Cymru, a Pharc Geneteg Cymru
Mae’r seren tennis iau, Alys Harris yn llewygu wrth serfio ar gyfer y bencampwriaeth yn Wimbledon. A hithau mewn coma yn yr ysbyty, caiff ymweliad gan ei diweddar dad. All Daf, cyn-chwaraewr tennis, helpu Alys i wneud synnwyr o'i llewyg a pherswadio ei ferch i ddychwelyd i fywyd heb dennis? Drama bwerus a theimladwy, sy’n rhoi cipolwg ar gardiomyopathi hypertroffig (HCM) a sut mae’n effeithio ar gydberthnasau, breuddwydion a mwy.
Cast: Ella Peel – Alys, Daniel Lloyd - Daf
Awdur: Lisa Parry
Cyfieithydd: Branwen Davies
Cyfarwyddwr: Zoë Waterman
Mae Alys, merch yn ei harddegau, yn gwybod pwy yw hi a beth mae hi eisiau. Wedi'i gyrru gan atgofion am ei thad, cyn-chwaraewr tennis proffesiynol llwyddiannus, y mae ei farwolaeth anesboniadwy yn ei phoeni, mae Alys yn serfio ar gyfer y gêm derfynol ym Mhencampwriaeth Iau y Merched yn Wimbledon. Yna mae’n llewygu.
A hithau mewn coma yn yr ysbyty, mae Alys yn cael ymweliad gan ei diweddar dad. Gyda chymorth Daf, rhaid iddi benderfynu pwy yw hi, beth mae hi eisiau, ac a ddylai ddychwelyd at ei chorff - a bywyd heb dennis.
Yn cynnwys Ella Peel, Daniel Lloyd, Mari Beard, Gareth John Bale a Mali Ann Rees; ysgrifennwyd gan Lisa Parry; cyfieithwyd i'r Gymraeg gan Branwen Davies; cyfarwyddwyd gan Zoë Waterman; golygu sain a dylunio gan Rhys Young. Recordiwyd Deuce yn Hoot Studios, Caerdydd.
Mae Deuce yn gynhyrchiad gan Illumine Theatre, mewn partneriaeth â Phartneriaeth Genomeg Cymru ac ar y cyd â Pharc Geneteg Cymru.
Os yw’r materion a godwyd yn Deuce wedi effeithio arnoch, mae cefnogaeth a gwybodaeth ar gael gan Sefydliad Prydeinig y Galon (https://www.bhf.org.uk/what-we-do/in-your-area/cymru), Cardiomyopathy UK (https://www.cardiomyopathy.org/) a Genetic Alliance UK (https://geneticalliance.org.uk/)
Alys: Ella Peel
Daf: Daniel Lloyd
Bethan / Gwestai: Mari Beard
Sylwebydd Un: Gareth John Bale
Sylwebydd Dau: Mali Ann Rees
Awdur: Lisa Parry
Cyfieithydd: Branwen Davies
Cyfarwyddwr: Zoë Waterman
Dylunio a golygu sain: Rhys Young
30 Jun 2023
Cipolwg ar Deuce (Trailer #2)
Deuce, drama sain newydd gan Lisa Parry, gydag Ella Peel a Daniel Lloyd yn serennu - dyddiad rhyddhau 3 Gorffennaf!
Mae Deuce yn gynhyrchiad gan Illumine Theatre, mewn partneriaeth â Phartneriaeth Genomeg Cymru ac ar y cyd â Pharc Geneteg Cymru.
28 Jun 2023
Cipolwg ar Deuce (Trailer #1)
Mae Deuce yn ddrama sain newydd gan Lisa Parry, gydag Ella Peel a Daniel Lloyd yn serennu.
Mae’r seren tennis iau, Alys Harris yn llewygu ar y prif gwrt yn Wimbledon. Tra bod Alys yn yr ysbyty mewn coma, mae hi'n ymwybodol o ymwelydd - ond beth mae ysbryd ei diweddar dad oedd yn arfer fod yn chwaraewr tennis proffesiynol yn ei wneud yno?
Dyddiad rhyddhau 3 Gorffennaf!
Contact Deuce - Gan Illumine Theatre, Partneriaeth Genomeg Cymru, a Pharc Geneteg Cymru
Guest appearances
Does not typically book guests
Based on episode analysis; this does not confirm that the show is currently accepting guests.
Host of Deuce - Gan Illumine Theatre, Partneriaeth Genomeg Cymru, a Pharc Geneteg Cymru?
Claim your podcast to manage its listing and keep your show details accurate.
Pod Engine is an independent podcast discovery and analytics service and is not affiliated with or endorsed by this podcast. Artwork and show content belong to their owners. Full legal notice.
Explore this show Podcast research with Pod Engine