Pennod 30. Ar Orffennaf 30. Ar y diwrnod mae fy mamgu yn troi'n 90. A blwyddyn o bodlediad: Haf 2024 - Haf 2025. Doedd dim cynllun lawnsio, dim pwysau, dim ond ymddiriedaeth y byddai'r podlediad yn darganfod y bobl oedd ei angen. Ac mae wedi. Yn y bennod hon, dwi'n myfyrio dros beth mae'n ei olygu i greu rhywbeth oedd â'r bwriad i fod yma i aros - mewn byd sy'n obsesiynol am amserlenni a phethau cyflym, Dwi'n sôn am pam dwi heb fod yn hysbysebu'r podlediad, a pham fod y podlediad yn mynd yn dawel am nawr. Beth sy'n newid... a beth sy ddim am newid! Diolch o galon i Marc Griffiths o Stiwdiobox am bob cymwynas wrth roi'r bennod hon allan i'r byd bob pythefnos dros y flwyddyn ddiwethaf, ac i Ieuan Wyn am gerddoriaeth ffab pod GBYH. Os wyt ti'n newydd yma - croeso. Cei glywed yn y bennod hon ambell awgrym ar ble i ddechrau yn llyfrgell podlediad GBYH. Ac os wyt ti wedi bod yn gwrando ar y dechrau - diolch. Mae'r bennod hon i chi gyd.
9 Jul 2025
Y bennod olaf ond un | 29
Y bennod olaf ond un (amy tro!) - nid hwyl fawr sydd yma - ond dechrau newydd. Cyfle i anrhydeddu beth mae'r gofod hwn wedi bod a chyflwyniad ysgafn i'r hyn sy'n dod.
Mae'r rhythm ar fin newid - nid achos bod rhywbeth yn dod i ben, ond achos bod rhywbeth arbennig yn barod i ddechrau. Os ydy HARBWR - Ehangu'n Esmwyth yn teimlo fel dy rythm nesaf di, mae croeso i ti ddysgu mwy yma (https://mailchi.mp/hannahopwood/harbwr)
25 Jun 2025
O na fyddai'n haf o hyd? | 28
This episode explores how to create a summer that feels fulfilling and aligned with personal needs, encouraging listeners to prioritize their desires and consider making a change.
Contact GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws
Guest appearances
Books guests
Based on episode analysis; this does not confirm that the show is currently accepting guests.
Host of GBYH: Gwneud Bywyd yn Haws?
Claim your podcast to manage its listing and keep your show details accurate.
Pod Engine is an independent podcast discovery and analytics service and is not affiliated with or endorsed by this podcast. Artwork and show content belong to their owners. Full legal notice.
Explore this show Podcast research with Pod Engine