Yn y bennod yma cawn hanes achos llys 1993, ble cafodd tri pherson eu cyhuddo o fod yn rhan o weithredoedd Meibion Glyndŵr. Fe glywn fwy hefyd am y Gwasanaethau Cudd. Beth yn union oedd ei ymwneud nhw â'r ymgyrch losgi, a pham fod cymaint o wybodaeth o'r cyfnod sy'n parhau yn ddirgelwch.
3 Aug 2023
Yn y cysgodion
Wrth i’r ymgyrch barhau, roedd sïon am ymwneud y gwasanaethau cudd yn tyfu. Ond beth yn union wnaeth ddigwydd? Yn y bennod yma fe glywn am hanes ciosg Talysarn, ac ambell i ddamcaniaeth ryfeddol am bwy arall allai fod yn clustfeinio…
27 Jul 2023
Yng ngwyneb y fflam
Perchnogion eiddo, gwleidyddion, newyddiadurwyr a mwy. Dyma brofiadau rhai o'r bobl ddaeth i gyswllt gyda gweithredoedd Meibion Glyndŵr. Erbyn canol y 1980au, roedd ymosodiadau ar draws Cymru a thu hwnt, gyda pherchnogion eiddo a gwleidyddion wedi’u targedu. Fe glywn hefyd gan ymladdwr tân fu’n dyst i berygl y dyfeisiadau ffrwydrol, ac am gymhelliant amrywiol posibl y sawl oedd yn gyfrifol.
20 Jul 2023
Mae rhywun yn rhywle’n gwybod
Yn oriau mân y bore ar Ragfyr 13 1979, cafodd tanau eu cynnau yn fwriadol mewn dwy ardal wahanol o Gymru. Yn Llanrhian, Sir Benfro ac yn Nefyn a Llanbedrog ym Mhen Llŷn, roedd tai gwyliau wedi eu llosgi'n ulw. Dyma oedd cychwyn ymgyrch Meibion Glyndŵr-gweithredoedd fyddai’n parhau am dros ddegawd wedi hynny. Yn y gyfres yma mae’r newyddiadurwr Ioan Wyn Evans yn ail ymweld â’r hanes a’n cyfarfod â’r rheiny fu’n dyst i’r digwyddiadau. Wrth i’r ymosodiadau barhau, roedd pwysau cynyddol ar yr heddlu i ddod o hyd i atebion. Yn y bennod yma fe glywn gan unigolion gafodd eu cyhuddo o fod yn rhan o weithredoedd Meibion Glyndŵr.
20 Jul 2023
Cynnau tân
Yn oriau mân y bore ar Ragfyr 13 1979, cafodd tanau eu cynnau yn fwriadol mewn dwy ardal wahanol o Gymru. Yn Llanrhian, Sir Benfro ac yn Nefyn a Llanbedrog ym Mhen Llyn, roedd tai gwyliau wedi eu llosgi'n ulw. Dyma oedd cychwyn ymgyrch Meibion Glyndŵr-gweithredoedd fyddai’n parhau am dros ddegawd wedi hynny. Yn y gyfres yma mae’r newyddiadurwr Ioan Wyn Evans yn ail ymweld â’r hanes a’n cyfarfod â’r rheiny fu’n dyst i’r digwyddiadau. Mae’r bennod yma’n cychwyn ar y noson aeafol honno ym 1979, wrth i Tony Pierce, ymladdwr tân lleol, dderbyn galwad ffôn annisgwyl...
17 Jul 2023
Meibion Glyndŵr: Oes rhywun yn rhywle'n gwybod?
Rhwng 1979 a 1993, cafodd cannoedd o danau eu cynnau yng Nghymru ac mewn mannau yn Lloegr yn enw Meibion Glyndŵr. Dim ond un person gafodd ei gyhuddo a'i ganfod yn euog o fod yn gysylltiedig â'r ymosodiadau.
Mewn cyfres arbennig mae Ioan Wyn Evans yn ceisio darganfod atebion newydd i gwestiynau o un o gyfnodau mwyaf cythryblus hanes diweddar Cymru. Drwy lygaid diffoddwyr tân, gohebwyr, gwleidyddion ac unigolion gafodd eu targedu gan y gweithredoedd, cawn glywed am effaith pellgyrhaeddol y digwyddiadau a'r dirgelwch sy'n parhau.
Contact Gwreichion
Guest appearances
Books guests
Based on episode analysis; this does not confirm that the show is currently accepting guests.
Host of Gwreichion?
Claim your podcast to manage its listing and keep your show details accurate.
Pod Engine is an independent podcast discovery and analytics service and is not affiliated with or endorsed by this podcast. Artwork and show content belong to their owners. Full legal notice.
Explore this show Podcast research with Pod Engine