Dyma wahoddiad i chi ymuno yn ein 'DMC' ni lle ni'n gobeithio llenwi'r chwant am sgyrsie dilys a dwys yn y Gymraeg. Allwch chi ddisgwl bob dim o iechyd meddwl i berthnasau i storie chwithig.
Ar ôl cwpl o sgyrsie gyda rai ohonoch chi ma' raglen heddi yn trafod pwysau cymdeithas arnom ni i edrych ffordd benodol‼️ Ni'n cyffwrdd ar brofiade Hanna o fethu gadel y tŷ heb golur a rhai Heledd yn trial bob diet dan yr haul o achos sylwadau pobl yn 'i byd hi💄🥗
3 Aug 2020
Rhaglen 4: Joio byw CARU DUW🙌
Heno ni'n agor y sgwrs am grefydd tra'n son am ein ffydd personal ni☺️ Ma'n sgwrs ysgafn fydd gobeithio yn apelio at bob un ohonoch chi, heb ots am eich safbwynt chi ar grefydd‼️ All bobl 'crefyddol' fynd am beint? 🍻 Pam ma pethe gwael yn digwydd i bobl da? 👍 Dewch i glywed mwy! 🔥
26 Jul 2020
Rhaglen 3: Yr 'hanner arall'
Wthnos yma ni'n son am gariad a'r hyn ni di dysgu am berthnase dros y blynyddoedd!👩❤️👨 Dewch i glywed am fathemateg Hanna am berthynas llwyddiannus a sut nath Heledd fynd o angen "ennill cariad" i "ffeindio unan hi"🤭‼️ #hansahels (https://www.instagram.com/explore/tags/hansahels/)
20 Jul 2020
Rhaglen 2: Y byd go iawn
Yn dilyn o'r rhaglen cynta' yr wythnos dwetha, dyma Rhaglen 2 lle ni'n son am fywyd ar ôl y brifysgol‼️👊 Dewch i glywed profiade Hanna fel merch yn ceisio torri mewn i faes Technoleg yn Llundain a'r hyrdls nath Heledd wynebu wrth ddod yn actores proffesiynol👩💻🎭#hansahels (https://www.instagram.com/explore/tags/hansahels/)
10 Jul 2020
Yn cyflwyno: Help...SOS
Cyflwyniad bach cloi i'r syniad tu ôl i'r podlediad a'r hyn allwch chi ddisgwl yn yr wythnosau i ddod!
10 Jul 2020
Rhaglen 1: Y brifysgol
Ma'r podlediad cynta'n fyw‼️Dewch i ffeindio allan pam fuodd Heledd yn llefen bob nos a pam nath Hanna rhedeg bant i Lundain! 😬💃 #hansahels (https://www.instagram.com/explore/tags/hansahels/)
Contact Help...SOS!
Guest appearances
Does not typically book guests
Based on episode analysis; this does not confirm that the show is currently accepting guests.
Host of Help...SOS!?
Claim your podcast to manage its listing and keep your show details accurate.
Pod Engine is an independent podcast discovery and analytics service and is not affiliated with or endorsed by this podcast. Artwork and show content belong to their owners. Full legal notice.
Explore this show Podcast research with Pod Engine