Yng nghwmni Ffion Emyr, mae'r podlediad yma yn dathlu lleisiau lleol a llwyddiant lleol yn ardal ARFOR!
Gyda chefnogaeth gan Raglen ARFOR ac wedi'i hysbrydoli gan y prosiect Llwyddo'n Lleol, rydyn ni yma i ddangos bod cyfleoedd cyffrous a dyfodol bywiog yn aros amdanoch chi – yma yng ngorllewin Cymru.
Yn ystod y gyfres, byddwn yn cwrdd â phobl ysbrydoledig sy'n profi bod ffynnu'n bosib heb adael cartref. O entrepreneuriaid i arloeswyr, mae ganddyn nhw i gyd stori i'w rhannu – ac mae'n fraint cael bod yma i'w hadrodd.
Yn y bennod yma, rydyn ni’n siarad gyda Lisa Taylor, artist talentog sy’n cael ei hysbrydoli gan dirweddau Cymru a’r elfennau naturiol o’n cwmpas, a Tom Owen, sylfaenydd y cwmni poblogaidd iawn Swig Smwddis. A mi fyddan nhw’n rhannu eu profiadau o weithio a datblygu gyrfa yma yn ARFOR.
25 Mar 2025
Sgwrs gyda'r asiantaeth greadigol ddigidol Libera
Yn y bennod yma mae Ffion yn cael sgwrs gydag Alun a Megan o Libera, sef asiantaeth greadigol ddigidol wedi ei lleoli yng Nghaerfyrddin.
Yn ogystal â dysgu mwy am y cwmni a'u gwaith, cawn glywed sut mae cefnogaeth Elfen Yrfaol Llwyddo'n Lleol wedi eu helpu i ehangu'r tîm!
18 Mar 2025
Sgwrs gyda Helen a Tara o Prosiect Gwyddoniaeth Mawr
Yn y bennod yma rydym yn cael sgwrs gyda Helen a Tara o Prosiect Gwyddoniaeth Mawr. Mae'r cwmni wedi derbyn cefnogaeth gan Llwyddo'n Lleol drwy'r Elfen Gyrfaol i gyflogi Tara. Gwrandewch ar y sgwrs i gael clywed sut mae gefnogaeth yma wedi bod o fudd i Tara a Helen!
11 Mar 2025
Sgwrs gyda Morlais - Trafod yr Elfen Gyrfaol, Ynni Llanw a mwy!
Yn y bennod yma, rydyn ni’n siarad gyda Hannah a Caryl o Morlais, sef prosiect ynni llif llanw gan Menter Môn.
Gyda chefnogaeth gan Raglen ARFOR, bydd ein sgwrs yn trafod sut mae Elfen Gyrfaol Llwyddo'n Lleol wedi caniatau i Caryl weithio gyda Morlais, tra hefyd yn astudio yn y brifysgol. Byddwn hefyd yn dysgu ychydig mwy am waith y prosiect a darganfod yr holl gyfleoedd sydd yn dod ohonno.
4 Mar 2025
Sgwrs gyda Lisa Eurgain Taylor a Tom Swig
Yn y bennod yma, rydyn ni’n siarad gyda Lisa Eurgain Taylor, artist talentog sy’n cael ei hysbrydoli gan dirweddau Cymru a’r elfennau naturiol o’n cwmpas, a Tom Owen, sylfaenydd y cwmni poblogaidd iawn Swig Smwddis. Ac mi fyddan nhw’n rhannu eu profiadau o weithio a datblygu gyrfa yma yn ARFOR.
Gyda chefnogaeth gan Raglen ARFOR, bydd ein sgwrs yn trafod sut y dechreuodd eu taith, y ffordd maen nhw’n defnyddio eu busnesau i gysylltu â’u cymunedau, a’r rôl y mae Llwyddo’n Lleol wedi’i chwarae yn eu llwyddiant. Byddwn hefyd yn ystyried eu gweledigaethau ar gyfer y dyfodol a’r hyn sy’n gwneud ARFOR yn lle arbennig i lansio a thyfu busnes.
Os ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth neu eisiau gwybod mwy am botensial ein hardaloedd gwledig, rydych chi yn y lle iawn.
25 Feb 2025
Ydi Dychwelyd yn Fethiant?
Yn y bennod hwn, rydyn ni’n mynd i drafod un o’r syniadau mwyaf dadleuol sy’n wynebu llawer o bobl sy’n gadael eu cymunedau lleol – y gred fod ‘dychwelyd adref’ yn rhyw fath o fethiant.
Rydyn ni’n croesawu dau westai arbennig sydd â phrofiadau uniongyrchol o’r daith hon – Huw Rees a Daniel Thomas. Mae’r ddau yn wreiddiol o ardal ARFOR ond wedi symud i ffwrdd i Gaerdydd a Llundain, cyn dychwelyd adref. Byddan nhw’n rhannu eu straeon, yn archwilio’r rhesymau pam wnaethon nhw benderfynu dychwelyd, ac yn trafod pam nad yw dychwelyd adref o anghenraid yn golygu cymryd cam yn ôl.
18 Feb 2025
Magu Teulu yn ARFOR
Yn y bennod yma rydyn ni’n mynd i ganolbwyntio ar faes sy’n agos at galon llawer ohonon ni – magu teulu yng Ngorllewin Cymru.
Rydyn ni’n sgwrsio â dwy westai arbennig – Hannah Hughes a Ffion Medi Rees. Mae’r ddwy yn rhannu eu profiadau o fagu plant yn yr ardal, y manteision unigryw sydd gan fywyd yma i’w gynnig, yn ogystal â’r heriau maen nhw wedi’u hwynebu.
11 Feb 2025
Does Dim Byd I'w Wneud Yma!
Yn y bennod yma rydyn ni’n mynd i herio’r gred gyffredin bod ‘dim byd i'w wneud’ yn ardal ARFOR.
Rydyn ni’n cael cwmni dau westai arbennig sy’n profi’r gwrthwyneb: Gwen Owen, sy’n rhedeg Môn Girls Run, ac Steff Rees, sy’n trefnu llu o ddigwyddiadau cyffrous yn ardal Ceredigion. Gyda chefnogaeth gan Raglen ARFOR, byddwn yn clywed sut mae’r ddau ohonyn nhw’n helpu i greu cyfleoedd, cysylltu pobl ifanc â’u cymunedau, a dangos bod y gorllewin yn llawn egni a bywyd i’r genhedlaeth nesaf.
24 Jan 2025
Rhedeg Busnes yn ARFOR
Yn y bennod yma, rydyn ni’n edrych ar sut beth yw rhedeg busnes yn ardal ARFOR a’r gefnogaeth sydd ar gael i entrepreneuriaid lleol.
Yn ymuno gyda ni mae dau westai ysbrydoledig: Daniel Grant, sylfaenydd Pen Wiwar, brand dillad cynaliadwy sy’n dathlu harddwch Cymru, a Tomos Owen, cyd-sylfaenydd Pelly, platfform pwerus sy’n galluogi clybiau pêl-droed i wneud penderfyniadau doethach a chyflymach. Mae’r ddau wedi elwa o gefnogaeth Llwyddo’n Lleol i ddatblygu eu syniadau ac adeiladu busnesau llwyddiannus yn ein hardal wledig.
Gyda chefnogaeth gan Raglen ARFOR, bydd ein sgwrs yn trafod sut y dechreuodd eu taith, y ffordd maen nhw’n defnyddio eu busnesau i gysylltu â’u cymunedau, a’r rôl y mae Llwyddo’n Lleol wedi’i chwarae yn eu llwyddiant. Byddwn hefyd yn ystyried eu gweledigaethau ar gyfer y dyfodol a’r hyn sy’n gwneud ARFOR yn lle arbennig i lansio a thyfu busnes.
Os ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth neu eisiau gwybod mwy am botensial ein hardaloedd gwledig, rydych chi yn y lle iawn.
Reach and audience
Public platform figures. Ratings count people who left a rating, not total listeners.
Spotify
5.0 / 5
1 ratings
Contact Lleisiau Lleol
Guest appearances
Books guests
Based on episode analysis; this does not confirm that the show is currently accepting guests.
Host of Lleisiau Lleol?
Claim your podcast to manage its listing and keep your show details accurate.
Pod Engine is an independent podcast discovery and analytics service and is not affiliated with or endorsed by this podcast. Artwork and show content belong to their owners. Full legal notice.
Explore this show Podcast research with Pod Engine