Drama Radio Ysgol Gynradd Hafodwenog
Trelech a’r Beili gan Un o’r lle
Mae’r gwaith wedi ei sbarduno gan ddigwyddiad hanesyddol yn ymwneud â Rhyfel y Degwm, a ddigwyddodd ym mhlwyf Trelech a’r Betws, Sir Gaerfyrddin ac â gofnodwyd ym mhapur newyddion Y Celt ar Fai 17eg, 1889.
Ffrwyth dychymyg yw’r holl sgyrsiau.
Ar dir comin ger Penygroes, ymhell o helynt y pentref, mae un teulu bach wedi cael diwrnod prysur iawn yn hela a’n creu pob math o grefftau i’w gwerthu. Maen nhw’n eistedd o gylch y tân yn gwylio’r watsh arian (y lleuad i chi a fi) yn dringo fry i’r awyr uwchben.
26 May 2021
Trelech a'r Beili - Golygfa 10 Ysgol Trelech
Ar iard Ysgol Trelech, roedd y plant yn mwynhau chwarae. Cymraeg oedd iaith y chwarae, er mai Saesneg oedd iaith y dosbarth.
26 May 2021
Trelech a'r Beili - Golygfa 9 Fferm Hafodwenog
Ar Fferm Hafodwenog, mae David Evans wedi bod yn brysur iawn yn aredig y tir a’i ferch, Elisabeth, wedi godro, golchi’r dillad ac wedi pobi bara ffres i de. Mae Sophia, ei wraig, newydd ddod nôl o’r siop ac ar fin dechrau gwneud te i’w gŵr blinedig.
26 May 2021
Trelech a'r Beili - Golygfa 8 Ffynnondafolog
Mae’n 1 o’r gloch y prynhawn ac mae Mr Stevens a’i griw newydd adael fferm Ffynnondafolog. Mae ei wyneb fel taran am bod ffarmwr arall wedi gwrthod talu ei ddyled. Mae Mr Stevens yn dechrau difaru iddo ddod i blwyf Trelech a’r Betws y diwrnod hwnnw.
26 May 2021
Trelech a'r Beili - Golygfa 7 Y Sgwâr
Mae’n 10 o’r gloch ac ar sgwâr y pentref, y tu allan i Gapel-y-Graig a siop Rock Hall, mae criw o gymdogion yn trafod rhywbeth pwysig. Mae aderyn bach newydd ddweud wrthyn nhw bod Mr Stevens, y beili sy’n gyfrifol am gasglu dyledion y Degwm, ar ei ffordd o Gaerfyrddin i Drelech gyda’i weision – a 70 o blismyn!!
26 May 2021
Trelech a'r Beili - Golygfa 6 Green Hall
Yn nhŷ Green Hall, cartref y clocsiwr lleol, mae Anna Morgan a’r plant ar fin gadael y tŷ i gerdded y 2 filltir i Ysgol Trelech. Mae Thomas, ei gŵr, wrthi’n brysur yn creu clocsiau newydd yn y gweithdy.
26 May 2021
Trelech a'r Beili - Golygfa 5 Felin-newydd
Yn Felin-newydd, ar lan afon Cynin, mae’r rhod ddŵr yn llonydd. Dyw Caleb James, y melinydd, heb ddechrau ar waith y dydd. Mae Rachel, ei wraig, yn brysur yn paratoi brecwast i bawb cyn mynd â’r plant i’r ysgol.
26 May 2021
Trelech a'r Beili - Golygfa 4 Rock Hall
Yn Rock Hall, y siop leol, mae Mr John Evans a’i deulu yn edrych mlân at ddiwrnod prysur iawn ac Anne Davies, y forwyn fach, yn paratoi brecwast i bawb.
26 May 2021
Trelech a'r Beili - Golygfa 3 Fferm Hafodwenog
Mae’n ddydd Llun, ac mae pentref Trelech yn fwrlwm o fywyd. Ar fferm Hafodwenog, mae David Evans newydd orffen ei frecwast ac yn barod am fore prysur o waith.
26 May 2021
Trelech a'r Beili - Golygfa 2 Capel y Graig
Cododd yr haul yn gynnar gan oleuo caeau glas a chloddiau blodeuog yr ardal. Ym Mhenygroes, mae Laurel, y ferch 13 oed, wedi codi cyn cŵn Caer – ond nid cyn y milgi brych. Mae hwnnw eisoes wedi diflannu i rywle.
26 May 2021
Trelech a'r Beili - Golygfa 1 Penygroes
Mae’n noson braf o wanwyn, ac mae un teulu bach newydd gyrraedd eu cartref newydd ger pentref Trelech yng ngogledd Sir Gâr. Pwy yw’r teulu newydd?
Contact Trysorfa Trelech - Ysgol Hafodwenog
Guest appearances
Does not typically book guests
Based on episode analysis; this does not confirm that the show is currently accepting guests.
Host of Trysorfa Trelech - Ysgol Hafodwenog?
Claim your podcast to manage its listing and keep your show details accurate.
Pod Engine is an independent podcast discovery and analytics service and is not affiliated with or endorsed by this podcast. Artwork and show content belong to their owners. Full legal notice.
Explore this show Podcast research with Pod Engine