Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sydd yn "Y Coridor Ansicrwydd" ac yn barod i drafod digwyddiadau diweddar y byd pêl-droed yn ogystal â phob math o bethau eraill yng nghwmni Dylan Griffiths.
Aeth Mal i'r Cae Ras i wylio Wrecsam yn curo Preston yn hawdd - ond chafodd o ddim ei blesio gan y perfformiad, na chwaith cyfle i holi'r rheolwr Phil Parkinson am ei dactegau wedi'r gêm. Ydi Parkinson wir o dan bwysau a hwythau dim ond tri phwynt yn fyr o safleoedd y gemau ail-gyfle yn y Bencampwriaeth.
Er colli i West Ham, parhau i edrych i lawr ar bawb mae Abertawe. A does gan Ows ddim amheuaeth o gwbl mai gwrthod unrhyw demtasiwn i adael byddai'r rheolwr Vitor Matos pe bai unrhyw glwb yn ei dargedu.
15 Oct 2026
Norwy nesa' i Gymru ac Abertawe yn mynd o nerth i nerth
Dylan Griffiths, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen sy'n dathlu perfformiad Cymru yn erbyn Albania sydd wedi mynd a thîm Rhian Wilkinson gam yn nes at gyrraedd Cwpan y Byd 2027. Norwy fydd y gwrthwynebwyr nesa'...a chyfle i brofi pwynt yn erbyn y cyn rheolwr Gemma Grainger.
Ac wrth i Abertawe eistedd ar frig y Bencampwriaeth wedi 10 gêm gynta'r tymor, ydi hi'n amser dechrau ystyried bod ganddyn nhw'r gallu i ennill y gynghrair?
7 Oct 2026
Dylan Lawlor a chanlyniadau Cymru
Mae Dylan Griffiths, Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones yn cael cwmni amddiffynnwr ifanc Caerdydd a Chymru Dylan Lawlor, ychydig funudau ar ôl iddo gamu oddi ar y cae ymarfer. Mae Lawlor yn ysu i gychwyn y tymor oddi ddifri ar ôl i anaf i'w ben-glin olygu mai dim ond wyth munud o bêl-droed mae o wedi ei flasu - a hynny ym muddugoliaeth gyntaf Caerdydd o'r tymor yn erbyn Charlton. Mae o hefyd yn ysu i gael y cyfle i brofi ei hun yn ebryn Erling Haaland a Cristiano Ronaldo fis nesaf.
Chafodd ddim y cyfle i wneud hynny mis yma oherwydd ei anaf, wrth i Gymru chwarae pedair gêm anodd iawn yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Daeth y cyfnod heriol i ben wrth golli o gôl i ddim yn erbyn Denmarc, ond cyn hynny, codwyd calonnau pawb gyda'r fuddugoliaeth nodedig yn erbyn Norwy. Felly, beth ydan ni a Chymru wedi ei ddysgu o'r gemau yma..?
Who has been a guest on Y Coridor Ansicrwydd
Names identified in recent episode analyses. Showing up to five guests.
Mick McCarthy
Rhian Wilkinson
Craig Bellamy
Reach and audience
Public platform figures. Ratings count people who left a rating, not total listeners.
Apple Podcasts (US)
5.0 / 5
1 ratings
Spotify
5.0 / 5
26 ratings
Podcast Authority Score: 65 / 100
A composite of feed quality, social presence, YouTube performance and engagement. Read the methodology.
Quality
95
Social presence
0
YouTube
0
Engagement
90
Contact Y Coridor Ansicrwydd
Guest appearances
Does not typically book guests
Based on episode analysis; this does not confirm that the show is currently accepting guests.
Pod Engine is an independent podcast discovery and analytics service and is not affiliated with or endorsed by this podcast. Artwork and show content belong to their owners. Full legal notice.
Explore this show Podcast research with Pod Engine