Podlediad gyda Sioned Dafydd a Rhydian Bowen-Phillips yn dilyn tîm pêl-droed Cymru ar eu taith i'r Ewros. A podcast with Sioned Dafydd and Rhydian Bowen-Phillips following the Wales football team on their journey to the Euros.
Mae'r EUROs ar ben gyda'r Eidal yn bencampwyr! Gwennan Harries sydd yn ymuno â Rhydian a Sioned am rifyn olaf y gyfres wrth iddynt edrych yn ôl dros holl gyffro'r gystadleuaeth ac edrych ymlaen at obeithion Cymru o gyrraedd Qatar 2022!
1 Jul 2021
Pennod 17: Diwedd y Daith i Gymru
Ymunwch â Sioned, Rhydian ac Iwan wrth iddynt edrych yn ôl dros ymgyrch Cymru yn EWRO 2020 yn ogystal ag edrych ymlaen at y dyfodol a'r daith i Qatar 2022.
22 Jun 2021
Pennod 16: Ymlaen i Amsterdam
Am yr ail dro yn olynol, mae Cymru fach wedi sicrhau ein lle yn Rownd yr 16 olaf yn yr Ewros. Ymunwch â Rhydian, Sioned ac Iwan i edrych yn ôl dros brynhawn anesmwyth yn Rhufain ac ymlaen at gêm enfawr yn Amsterdam.
19 Jun 2021
Pennod 15: Curo Twrci ac ymlaen i'r Azzurri!
Yn dilyn y fuddugoliaeth anhygoel i ddynion Robert Page yn Baku, mae Iwan Roberts yn ôl gyda Sioned a Rhydian i drafod gobeithion Cymru yn Rhufain.
14 Jun 2021
Pennod 14: V V VAR a Pheniad Kieffer Moore
V V VAR a Pheniad Kieffer Moore! 😍
Iwan Roberts sydd yn ymuno â Sioned a Rhydian i edrych yn ôl ar gêm y Swistr ac ymlaen i'r gêm ENFAWR yn erbyn Twrci! 🏴
The Naw Deg discuss Christian Eriksen, the possibility of dropping Aaron Ramsey and Super Danny Ward.
10 Jun 2021
Y Bois yn Baku
Ar ôl dros flwyddyn hir o ysu ac aros, mae'r EUROs wedi cyrraedd! Mae Rhydian a Sioned yn cael cwmni Dylan Ebenezer ac Owain Tudur Jones o Baku gyda holl hanes y trip hyd yn hyn a rhagolwg i'r gêm fawr yn erbyn y Swistir.
3 Jun 2021
Pennod 12: VAR a'r Wal Goch yn ôl yng Nghaerdydd
Gyda llai na phythefnos i fynd tan i Gymru gychwyn eu hymgyrch yn Baku, Nic Parry sydd yn ymuno â Rhydian a Sioned i drafod holl gyffro'r gêm gyfeillgar yn Ffrainc ac edrych ymlaen at weld y Wal Goch yn ôl yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer y gêm yn erbyn Albania.
30 May 2021
Pennod 11: Carfan Cymru
Mae'r pendroni a'r dyfalu ar ben wrth i Robert Page enwi'r 26 chwaraewr fydd yn cynrychioli Cymru yn EWRO 2020. John Hartson sydd yn ymuno â Rhydian a Sioned i drafod y garfan ac edrych ymlaen at y ddwy gêm gyfeillgar yn erbyn Ffrainc ac Albania.
26 May 2021
Pennod 10: Y Cymry yn Wembley!
Iwan Roberts sydd yn ôl ar y Naw Deg yr wythnos hon wrth i Abertawe a Chasnewydd sicrhau eu lle yn Wembley ar y penwythnos. Mae Rhydian a Sioned hefyd yn croesawu Rhian Angharad Davies i'r sioe, fel cystadleuydd gyntaf ein cystadleuaeth, 'Y Cymry oddi Cartref'.
18 May 2021
Pennod 9: O'r Pencampwyr i'r Play-offs!
Mae yna ddau westai arbennig am bris un ar Y Naw Deg yr wythnos hon wrth i Sioned a Rhydian groesawu Aeron Edwards i drafod buddugoliaeth hanesyddol Cei Conna yn y JD Cymru Premier, ac wrth i gefnogwr brwd yr Elyrch, Meilyr Emrys drafod gobeithion Abertawe o gyrraedd yr Uwch Gynghrair.
13 May 2021
Pennod 8: Y Wal Goch
Gyda llai na fis i fynd tan EURO 2020, y cerddor, cyflwynydd, cyn-chwaraewr ac aelod brwd o'r Wal Goch, Yws Gwynedd sydd yn ymuno â Rhydian a Sioned ar y Naw Deg wrth iddynt edrych ymlaen at gychwyn y Bencampwriaeth.
4 May 2021
Pennod 7: Malcolm Allen
Yn dilyn boicot cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos, mae'r Naw Deg yn ôl! Malcolm Allen sydd yn ymuno â Rhydian a Sioned wrth iddynt ymateb i'r newyddion mai Robert Page fydd yn arwain Cymru i'r Ewros a cheisio dewis y garfan fydd ar yr awyren.
22 Apr 2021
Pennod 6: "Y 'not-so' Super League"
Iwan Roberts sydd yn ymuno a Rhydian a Sioned yr wythnos hon i drafod wythnos ryfeddol ym myd pêl-droed Ewropeaidd, yn ogystal â thrafod gobeithion y timau o Gymru wrth i ddiwedd y tymor agosáu.
14 Apr 2021
Pennod 5: Pob Lwc Laura McAllister
Laura McAllister sydd yn ymuno â Sioned a Rhydian yr wythnos hon i drafod ei hymgyrch arbennig i ennill sedd ar Gyngor FIFA ac i drafod effaith Gemma Grainger ar dîm Menywod Cymru.
7 Apr 2021
Pennod 4: Angharad James - O Breseli i Ogledd Carolina
Ymunwch a Rhydian a Sioned wrth iddynt edrych yn ôl ar Basg anodd iawn i Abertawe a Chaerdydd, tra bod Angharad James yn ymuno â'r Naw Deg i drafod ei gyrfa hyd yn hyn ac edrych ymlaen at benwythnos mawr i Gemma Grainger a thîm menywod Cymru.
2 Apr 2021
Pennod 3: Diolch byth am Dan James!
Owain Tudur Jones sydd yn ymuno â Sioned a Rhydian yr wythnos hon wrth iddynt edrych yn ôl dros wythnos brysur i'r tîm cenedlaethol ac edrych ymlaen at benwythnos o bêl-droed yn y Gynghrair!
25 Mar 2021
Pennod 2: Gwlad Belg, Mecsico a Gweriniaeth Tsiec
Yn dilyn siom agoriadol yn erbyn Gwlad Belg, Gwennan Harries sydd yn ymuno â Sioned a Rhydian i edrych ymlaen at y gemau yn erbyn Mecsico a Gweriniaeth Tsiec.
23 Mar 2021
Pennod 1: Croeso i'r Naw Deg
Croeso i'r Naw Deg! Podlediad newydd sbon yn trafod hynt a helynt y bêl gron yng Nghymru a thu hwnt.
Ymunwch â'n cyflwynwyr, Rhydian Bowen-Phillips a Sioned Dafydd wrth iddynt drafod Darbi De Cymru ac edrych ymlaen at wythnos enfawr i'r tîm cenedlaethol yng nghwmni Dylan Ebenezer.
Contact Y Naw Deg
Guest appearances
Books guests
Based on episode analysis; this does not confirm that the show is currently accepting guests.
Host of Y Naw Deg?
Claim your podcast to manage its listing and keep your show details accurate.
Pod Engine is an independent podcast discovery and analytics service and is not affiliated with or endorsed by this podcast. Artwork and show content belong to their owners. Full legal notice.
Explore this show Podcast research with Pod Engine