Podcast thumbnail for Ymchwil Ar Y Gweill

Ymchwil Ar Y Gweill

Claim This Podcast

by Jonathan Davies

14 episodes
Updated Daily
Accepts GuestsHas SponsorsLocation 🇬🇧

Podcast Overview

Ymchwil ar y Gweill yw’r podlediad sy’n rhoi llwyfan i ymchwilwyr ledled Cymru rannu eu gwaith a’u syniadau. Bob pennod, mae Jonathan Davies yn siarad gyda gwestai newydd i archwilio eu maes ymchwil, y cwestiynau sy’n eu hysgogi, a’r effaith ar gymdeithas. O’r gwyddorau naturiol i’r celfyddydau creadigol, mae’r podlediad yn cynnig cipolwg hygyrch ac ysbrydoledig ar ystod eang o bynciau. Boed chi’n ymchwilydd, yn fyfyriwr neu’n syml yn mwynhau darganfod syniadau newydd, mae croeso i chi ymuno â’r sgwrs.

Language

Publishing Since

9/28/2025

1 verified contact email on file for Ymchwil Ar Y Gweill

Pitch yourself as a guest, propose sponsorships, or reach out directly to the host.

Recent Episodes

Episode thumbnail for Pennod Bonws: Diolch o Galon o Ymchwil Ar Y Gweill

June 30, 2026

Pennod Bonws: Diolch o Galon o Ymchwil Ar Y Gweill

Diolch yn fawr iawn, pawb am eich holl gymorth dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyma neges i roi gwybod y bydd Ymchwil Ar Y Gweill yn cymryd amser bant dros yr haf er mwyn recordio ar gyfer cyfres 2!

Bydd Cyfres 2 hefyd yn ehangu’r ystod o leisiau ar y podlediad, gan gynnwys ymchwilwyr ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd academaidd, ynghyd â mwy o benodau drwy gydol y gyfres.

Cyn hynny, mae croeso i chi fynd yn ôl at benodau Cyfres 1 ac ail-ddarganfod yr ymchwil ffantastig sydd eisoes wedi’i rhannu.

Diolch o galon eto am wrando a dw i'n edrych ymlaen at eich croesawu chi nôl ym mis Medi!

Jon

Episode thumbnail for Pennod 12: Cyllid a Datganoli gyda Guto Rhys Hughes

June 29, 2026

Pennod 12: Cyllid a Datganoli gyda Guto Rhys Hughes

Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Guto Rhys-Hughes, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor, sy’n ymchwilio i ddatganoli cyllidol, bondiau sofran, a’r modd y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio dulliau benthyca newydd i ariannu buddsoddiadau cyfalaf yn y dyfodol. Mae’r sgwrs yn cyflwyno cysyniadau economaidd cymhleth mewn ffordd glir ac yn archwilio sut mae ymchwil academaidd yn gallu llywio trafodaethau polisi cyhoeddus.

Yn ystod y bennod, mae Guto yn esbonio beth yw bondiau sofran, sut maent yn gweithio, a pham eu bod yn offeryn ariannol pwysig i lywodraethau ledled y byd. Mae’n trafod y pwerau benthyca a gafodd Llywodraeth Cymru yn 2015, sut mae’r Alban yn paratoi i gyhoeddi ei bond cyntaf, a beth all Cymru ei ddysgu o’r profiadau hynny. Mae hefyd yn egluro’r cysyniad o ddatganoli cyllidol a’r berthynas bosibl rhwng rhoi mwy o bwerau ariannol i lywodraethau lleol a thwf economaidd.

Mae’r bennod hefyd yn cynnig cipolwg ar realiti ymchwil PhD ym maes economeg. Mae Guto yn trafod yr heriau o gasglu a chysoni data o wahanol rannau o’r Deyrnas Unedig, defnyddio cronfeydd data fel Bloomberg Terminal, a datblygu modelau ystadegol i ddadansoddi’r berthynas rhwng datganoli cyllidol a pherfformiad economaidd. Wrth gloi, mae’n rhannu cyngor i ymchwilwyr eraill ar bwysigrwydd cymryd seibiannau, siarad â chydweithwyr, a chadw cydbwysedd yn ystod taith y PhD.

Mae prosiect Jonathan a phrosiect Guto yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Episode thumbnail for Pennod 11: Diddordebau'r Dysgwyr yn y Dosbarth Ieithoedd gyda Laura Jenkins

May 14, 2026

Pennod 11: Diddordebau'r Dysgwyr yn y Dosbarth Ieithoedd gyda Laura Jenkins

Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Laura Jenkins, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion, sy’n ymchwilio i rôl personoli mewn gwersi dysgu ieithoedd a sut y gall cynnwys sy’n berthnasol i fywydau dysgwyr gynyddu eu hymgysylltiad â’r iaith.

Yn ystod y sgwrs, mae Laura yn trafod ei gwaith ar greu gwersi sydd wedi’u teilwra at ddiddordebau personol dysgwyr—o gerddoriaeth a bwyd i ffilmiau, cyfryngau cymdeithasol a chynnwys digidol fel Instagram, YouTube a Pinterest. Mae hi’n esbonio sut y gall defnyddio cynnwys sy’n berthnasol i fywyd pob dydd helpu dysgwyr i deimlo mwy o gysylltiad â’r iaith ac annog mwy o gyfranogiad yn y dosbarth.

Mae’r bennod hefyd yn archwilio rhai o’r syniadau damcaniaethol sydd wrth wraidd ei hymchwil, gan gynnwys “context personalization”, “grain size, depth and ownership”, a’r cysyniad o “catch and hold” mewn addysg ieithoedd. Mae Laura yn trafod sut mae’r syniadau hyn yn helpu ymchwilwyr a thiwtoriaid i feddwl yn fwy realistig am sut i bersonoli gwersi mewn dosbarthiadau gyda dysgwyr o gefndiroedd a diddordebau gwahanol.

14 total episodes available

Deep-dive analytics for Ymchwil Ar Y Gweill

Frequently asked questions

Have a different question and can't find the answer you're looking for? Reach out to our support team by sending us an email and we'll get back to you as soon as we can.

What is Ymchwil Ar Y Gweill?

Ymchwil ar y Gweill yw’r podlediad sy’n rhoi llwyfan i ymchwilwyr ledled Cymru rannu eu gwaith a’u syniadau. Bob pennod, mae Jonathan Davies yn siarad gyda gwestai newydd i archwilio eu maes ymchwil, y cwestiynau sy’n eu hysgogi, a’r effaith ar gymdeithas. O’r gwyddorau naturiol i’r celfyddydau creadigol, mae’r podlediad yn cynnig cipolwg hygyrch ac ysbrydoledig ar ystod eang o bynciau. Boed chi’n ymchwilydd, yn fyfyriwr neu’n syml yn mwynhau darganfod syniadau newydd, mae croeso i chi ymuno â’r sgwrs.

How often does this podcast release new episodes?

This podcast updates daily.

Where can I listen to this podcast?

This podcast is available on 4 platforms including Apple Podcasts, Spotify, and more. You can also use the RSS feed directly.

Does this podcast accept guests?

Yes, this podcast regularly features guests.

Legal Disclaimer

Pod Engine is not affiliated with, endorsed by, or officially connected with any of the podcasts displayed on this platform. We operate independently as a podcast discovery and analytics service.

All podcast artwork, thumbnails, and content displayed on this page are the property of their respective owners and are protected by applicable copyright laws. This includes, but is not limited to, podcast cover art, episode artwork, show descriptions, episode titles, transcripts, audio snippets, and any other content originating from the podcast creators or their licensors.

We display this content under fair use principles and/or implied license for the purpose of podcast discovery, information, and commentary. We make no claim of ownership over any podcast content, artwork, or related materials shown on this platform. All trademarks, service marks, and trade names are the property of their respective owners.

While we strive to ensure all content usage is properly authorized, if you are a rights holder and believe your content is being used inappropriately or without proper authorization, please contact us immediately at hey@podengine.ai for prompt review and appropriate action, which may include content removal or proper attribution.

By accessing and using this platform, you acknowledge and agree to respect all applicable copyright laws and intellectual property rights of content owners. Any unauthorized reproduction, distribution, or commercial use of the content displayed on this platform is strictly prohibited.